Yr Her
BETH YW ‘HER FFILM FER’?
Dyma her newydd gan Hansh / S4C – rhywbeth cyffrous i'w wneud tra’n bod ni dan glo ac o dan gyfyngiadau COVID 19.
Mae gennych gyfnod o 48 awr i greu ffilm fer wreiddiol, o fewn genre penodol fydd yn cael ei ddatgelu ar ddechrau’r her.
Mae rhai o arbenigwyr mwyaf blaenllaw Cymru yn beirniadu a bydd y ffilmiau hefyd yn cael eu dangos ar blatfform Youtube Hansh yn dilyn y gystadleuaeth.
Wrth i chi aros am y penwythnos mawr fe fydd sesiynau masterclass yn cael eu cynnal gan sawl enw adnabyddus yn y maes fydd yn cynnig cyngor gwerthfawr a tips handi am gystadlu.
DYDDIADAU PWYSIG
Mae’r her 48 awr yn cychwyn am 19:00 ar y 19eg o Fehefin.
Fe fydd sesiynau byw am 10:30 ar ddydd Sadwrn 20/06/20 ac am 10:30 ar ddydd Sul 21/06/20.
Fe fydd y gystadleuaeth yn cau am 19:00 nos Sul yr 21ain o Fehefin.
Ymunwch gyda ni 48 awr yn ddiweddarach am y canlyniadau - 19:00 Nos Fawrth y 23ain o Fehefin.
Y WOBR
Mi fydd y ffilm orau yn derbyn gwobr o £1,000.
Ond fydd pawb sy’n cystadlu wrth gwrs yn cael y cyfle unigryw hwn i ddysgu wrth y goreuon yn y maes a chael adborth gwerthfawr am eu gwaith.
MANYLION PWYSIG
• Rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn i gystadlu
• Rhaid cofrestru cyn 19:00 Nos Wener 19/06/20
• Os ydych am ddefnyddio iaith o fewn eich ffilm, Cymraeg dylai’r iaith hwnnw fod yn bennaf
• Ni all y fideo fod yn hirach na 5’00” o hyd
• Mae angen i chi gadw wrth gyfyngiadau Covid 19 Llywodraeth Cymru wrth ffilmio
• Mae croeso i chi gystadlu fel unigolyn neu fel criw
Gwelir holl delerau’r gystadleuaeth yma.
CYFLWYNYDD YR HER
Annes Elwy fydd yn ein harwain wrth i ni baratoi am yr Her Ffilm Fer ac yn ystod y penwythnos mawr ei hun. Mae Annes yn wyneb cyfarwydd i ni gyd fel actores yn ’Craith‘, ’Little Women’ a ’King Arthur’.
CWRDD Â’R BEIRNIAID
Gyda’r dasg o ddewis y ffilm fer orau a darparu cyngor gwerthfawr iawn i bob cystadleuydd mae ein panel o feirniad:
• Ed Thomas - Cynhyrchydd Y Gwyll, Gwaith Cartref, Pen Talar.
• Hannah Thomas - Cynhyrchydd Craith, Under Milk Wood, Becoming Human.
• Euros Lyn - Cyfarwyddwr Dr Who, Torchwood, Y Llyfrgell.
• Gwenllian Gravelle - Comisiynydd Drama S4C, Cyn-gynhyrchydd Un Bore Mercher.
• Rhodri ap Dyfrig - Comisiynydd Cynnwys Arlein S4C a Hansh.
CYNHYRCHIAD
Cynhyrchiad Hansh S4C ar gyfer S4C, wedi’i gynhyrchu gan Tinint, rhan o grŵp Tinopolis.