Mehefin 2020

1. Mae'r gystadleuaeth yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy'n gyflogedig gan S4C, Tinint (y Cwmni), eu teuluoedd a chwmnïau eraill sy'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth. 


2. Rhaid i bob ymgeisiwr fod yn 18 oed neu'n hŷn i gystadlu. Ceidw’r Cwmni ac S4C yr hawl i ofyn am brawf ysgrifenedig o oedran unrhyw enillydd.


3. I gystadlu, rhaid cofrestru cyn 19:00 nos Wener 19/05/20 ar herffilmfer.cymru a thicio’r blwch perthnasol i dderbyn yr amodau hyn. Fe fydd ganddoch 48 awr i gynhyrchu ffilm fer ac i ymgeisio yn unol â’r canllawiau sydd ar y wefan.


4. Bydd genre a manylion terfynol y gystadleueth yn cael eu rhannu ar ôl i’r cofrestru gau am 19:00 ar y 19eg o Fehefin, 2020.


5. Ni ellir defnyddio cerddoriaeth na delweddau masnachol neu unrhyw ddeunydd arall sydd ddim yn berchen i chi. 


6. Os defnyddir iaith o fewn eich ffilm, mae angen iddo fod yn Gymraeg yn bennaf er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y gystadleuaeth.


7. Ni all y fideo fod yn hirach na 5’00” o hyd.


8. Rhaid i bob cystadleuydd gydymffurfio â chanllawiau a chyfyngiadau Covid-19 Llywodraeth Cymru wrth gynhyrchu pob elfen o'ch ffilm fer. 

 

9. Cyfrifoldeb pob cystadleuydd yw sicrhau eich bod yn paratoi asesiad iechyd a diogelwch trylwyr cyn ffilmio ac yn cadw at hyn trwy gydol yr her.


10. Gellir cystadlu fel unigolyn neu fel criw.


11. Y wobr ariannol yw £1,000. Byddwn yn cysylltu â’r enillydd i drefnu taliad. Telir yr arian i’r unigolyn sydd wedi’i nodi fel person cyswllt yn y cais. Nid yw’r Cwmni nac S4C yn gyfrifol am ddyrannu’r arian rhwng aelodau o griw.


12. Byddy gystadleuaeth yn dechrau am 19:00 nos Wener y 19eg o Fehefin ac yn cau am 19:00 ar yr 21ain o Fehefin. 


13. Mae penderfyniady Cwmni ac S4C yn derfynol. 


14. Byddy Cwmni yn cadw data personol  cystadleuwyr am gyfnod rhesymol ar ôl y gystadleuaeth er mwyn gweinyddu'r gystadleuaeth a delio gydag unrhyw gwestiynau. 


15. Caiffunrhyw ddata personol a gesglir ei brosesu yn unol â deddfwriaeth diogelu data perthnasol y DU. Bydd y Cwmni yn prosesu unrhyw ddata personol yn unol â’r polisi preifatrwydd  sydd wedi’i gyhoeddi ar https://www.tinopolis.com/privacy-notice/. Bydd S4C yn prosesu unrhyw ddata personol yn unol â’r polisi sydd wedi’i gyhoeddi ar http://www.s4c.cymru/cy/y-wefan-hon/page/16717/polisi-preifatrwydd/


16. Mae'r Cwmnia/neu S4C yn cadw’r hawl i anghymwyso unrhyw ymgeisydd os bydd ganddynt sail resymol dros gredu bod yr ymgeisydd wedi torri unrhyw rai o'r rheolau hyn. 


17. Ni fydd y Cwmni nac S4C yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriad, diffyg, amhariad, dileu, nam neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gan ymgeiswyr, neu ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn cyrraedd cyn y dyddiad cau. Nid yw prawf bod ffilm wedi ei chyflwno yn cyfateb i brawf ei bod wedi ei derbyn.


18. Mae'r Cwmni a/neu S4C yn cadw’r hawl i ddiwygio’r rheolau hyn neu i ganslo, addasu neu ddiwygio’r gystadleueth ar unhryw adeg o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i’w rheolaeth, neu er mwyn sicrhau bod y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn unol â’r deddfau a chanllawiau perthnasol.


19. Mae’r teleraua'r amodau hyn yn weithredol yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr. 


20. Dylidcyfeirio unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r Gystadleuaeth at dîm TININT: herffilmfer@tinint.com neu Gwifren Gwylwyr S4C: 0370 600 4141. 

 


Wrth dderbyn yr amodau hyn, rydych yn: 

 

• Rhoicaniatâd digyfyngiad i'r Cwmni ac S4C ddefnyddio’ch ffilm a/neu glipiau ohoni mewn unrhyw gyfrwng a heb daliad pellach i’r cystadleuydd, cyfrannydd na thrydydd parti. Mae’r hawl hwn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i ddefnydd o’r ffilm a/neu glipiau ohoni ar gyfryngau cymdeithasol, ar sianel deledu S4C, ac ar bob ac unrhyw wefan o dan reolaeth S4C.

• Yr ymgeisydd sydd yn cadw pob hawlfraint yn y ffilm. 


• Cadarnhaunad oes unrhyw beth ynng ngwaith yr  ymgeisydd sydd yn torri hawliau eiddo deallusol, hawliau preifatrwydd nac unrhyw hawliau eraill unrhyw drydydd parti, ac na fyddant yn cynnwys unrhyw beth sy'n enllibus, difenwol, anllad, anweddus, yn peri aflonyddwch neu'n fygythiol. 


• Yncytuno, os y byddwch yn enill, y gall y Cwmni ac S4C ddefnyddio enw a llun proffeil yr enillydd at ddibenion hyrwyddo'r gystadleuaeth mewn unrhyw gyfrwng.