Yr Her

BETH YW ‘HER FFILM FER’?
Dyma'r trydydd Her Ffilm Fer gan Hansh/S4C - cyfle cyffroes i chi brofi eich sgiliau creu ffilmiau a chael eich adnabod gan y sianel.
Mae gennych gyfnod o 48 awr i greu ffilm fer wreiddiol, o fewn genre penodol sef 'thriller' a bydd twist yn cael ei ddatgelu ar ddechrau'r her.
Mi fydd rhai o arbenigwyr mwyaf blaenllaw Cymru yn beirniadu y gystadleuaeth a chaiff y ffilmiau eu dangos ar blatfform Youtube Hansh yn dilyn y gystadleuaeth.
Wrth i chi aros am y penwythnos mawr fe fydd sesiynau dosbarthmeistri yn cael eu cynnal gan sawl enw adnabyddus yn y maes fydd yn cynnig cyngor gwerthfawr a tips gwerth chweil am gystadlu!
DYDDIADAU PWYSIG
Mae'r her 48 awr yn cychwyn am 19:00 ar y 15fed o Hydref.
Fe fydd sesiynau byw am
10:00 ar ddydd Sadwrn 16/10/21
ac am 10:00 ar ddydd Sul 17/10/21.
Fe fydd y gystadleuaeth yn cau am 19:00 nos Sul y 17eg o Hydref.
Bydd yr holl fideos yn cael eu ymddangos yn fyw ar Fore Llun y 18fed o Hydref, ble fydd cyfle i'r cyhoedd bleidleisio am eu hoff ffilmiau.
Ac yna, ymunwch a ni wythnos yn ddiweddarach am y canlyniadau BYW - 19:00 Nos Iau y 28fed o Hydref.


Y WOBR
Bydd y ffilm buddigol yn derbyn gwobr ariannol o £ 1,000 a'r teitl o enillydd / enillwyr Her Ffilm Fer 3!
Ond fydd pawb, sy’n cystadlu, wrth gwrs yn cael y cyfle unigryw hwn i ddysgu wrth y goreuon yn y maes a chael adborth gwerthfawr am eu gwaith.
MANYLION PWYSIG
• Rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hyn i gystadlu.
• Rhaid cofrestru cyn 19:00 Nos Wener 15/10/21.
• Os ydych am ddefnyddio iaith o fewn eich ffilm, Cymraeg dylai'r iaith hwnnw fod yn bennaf.
• Ni all y fideo fod yn hirach na 5'00" o hyd.
• Mae angen i chi gadw at gyfyngiadau Covid 19 Llywodraeth Cymru wrth ffilmio.
• Mae croeso i chi gystadlu fel unigolyn neu fel criw.
Gwelir holl delerau'r gystadleuaeth yma.


CYFLWYNYDD YR HER
Mali Ann Rees fydd yn ein harwain wrth i ni baratoi am yr Her Ffilm Fer ac yn ystod y penwythnos mawr ei hun.
Actores ac ysgrifenyddes yw Mali a chafodd ei hyfforddiant yn East 15 Acting School. Dechreuodd ei gyfra actio fel Ffion yn Severn Screens BBC/S4C ar y ddrama droseddol Hidden/Craith ac o hynny wedi gweithio ar lawer o raglenni teledu a chynyrchiadau theatr.
CWRDD Â’R BEIRNIAID
Gydar dasg o ddewis y ffilm fer orau a darparu cyngor gwerthfawr iawn i bob cystadleuydd mae ein panel o feirniad:
• Gwyneth Keyworth - Actores sy'n adnabyddus am ei rôl yn Misfits, Craith (Hidden) a Doctor Thorne.
• Eilir Pierce - Wedi cyfarwyddo ers 20 mlynedd bellach. Ag wrthi yn torri drama newydd i fobol ifanc S4C or enw Persona, wedi bod yn ei gyfarwyddo a cyd greu.
• Gwenllian Gravelle - Comisiynydd Drama S4C a Cynhyrchydd 'Un Bore Mercher'.
CYNHYRCHIAD
Cynhyrchiad Hansh S4C ar gyfer S4C, wedi’i gynhyrchu gan Tinint, rhan o grŵp Tinopolis.