1. Mae'r gystadleuaeth yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy'n gyflogedig gan S4C, Tinint (y Cwmni), eu teuluoedd a chwmnïau eraill sy'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth.

2. Rhaid i bob ymgeisiwr fod yn 18 oed neu'n hŷn i gystadlu. Ceidw’r Cwmni ac S4C yr hawl i ofyn am brawf ysgrifenedig o oedran unrhyw enillydd.

3. I gystadlu, rhaid cofrestru cyn 19:00 Nos Wener 15/10/21 herffilmfer.cymru a thicio’r blwch perthnasol i dderbyn yr amodau hyn. Fe fydd ganddoch 48 awr i gynhyrchu ffilm fer ac i ymgeisio yn unol â’r canllawiau sydd ar y wefan.

4. Bydd manylion terfynol y gystadleueth yn cael eu rhannu ar ôl i’r cofrestru gau am 19:00 ar y 15fed o Hydref, 2021.

5. Ni ellir defnyddio cerddoriaeth na delweddau masnachol neu unrhyw ddeunydd arall sydd ddim yn berchen i chi.

6. Os defnyddir iaith o fewn eich ffilm, mae angen iddo fod yn Gymraeg yn bennaf er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y gystadleuaeth.

7. Ni all y fideo fod yn hirach na 5’00” o hyd.

8. Rhaid i bob cystadleuydd gydymffurfio â chanllawiau a chyfyngiadau Covid-19 Llywodraeth Cymru wrth gynhyrchu pob elfen o'ch ffilm fer.

9. Cyfrifoldeb pob cystadleuydd yw sicrhau eich bod yn paratoi asesiad iechyd a diogelwch trylwyr cyn ffilmio ac yn cadw at hyn trwy gydol yr her.

10. Gellid cystadlu fel unigolyn neu fel criw, cyn belled ag y bo’n bosib o dan ganllawiau a chyfyngiadau Covid-19 Llywodraeth Cymru.

11. Y wobr ariannol yw £1,000 Byddwn yn cysylltu â’r enillydd i drefnu taliad. Telir yr arian i’r unigolyn sydd wedi’i nodi fel person cyswllt yn y cais. Nid yw’r Cwmni nac S4C yn gyfrifol am ddyrannu’r arian rhwng aelodau o griw.

12. Mi fydd y gystadleuaeth yn dechrau am 19:00 Nos Wener y 15fed o Hydref ac yn cau am 19:00 ar yr 17eg o Hydref.

13. Mae penderfyniad y Cwmni ac S4C yn derfynol.

14. Bydd y Cwmni yn cadw data personol cystadleuwyr am gyfnod rhesymol ar ôl y gystadleuaeth er mwyn gweinyddu'r gystadleuaeth a delio gydag unrhyw gwestiynau.

15. Caiffunrhyw ddata personol a gesglir ei brosesu yn unol â deddfwriaeth diogelu data perthnasol y DU. Bydd y Cwmni yn prosesu unrhyw ddata personol yn unol â’r polisi preifatrwydd sydd wedi’i gyhoeddi ar https://www.tinopolis.com/privacy-notice/. Bydd S4C yn prosesu unrhyw ddata personol yn unol â’r polisi sydd wedi’i gyhoeddi ar http://www.s4c.cymru/cy/y-wefan-hon/page/16717/polisi-preifatrwydd/

16. Mae'r Cwmni a/neu S4C yn cadw’r hawl i anghymwyso unrhyw ymgeisydd os bydd ganddynt sail resymol dros gredu bod yr ymgeisydd wedi torri unrhyw rai o'r rheolau hyn.

17. Ni fydd y Cwmni nac S4C yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriad, diffyg, amhariad, dileu, nam neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gan ymgeiswyr, neu ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn cyrraedd cyn y dyddiad cau. Nid yw prawf bod ffilm wedi ei chyflwno yn cyfateb i brawf ei bod wedi ei derbyn.

18. Mae'r Cwmni a/neu S4C yn cadw’r hawl i ddiwygio’r rheolau hyn neu i ganslo, addasu neu ddiwygio’r gystadleueth ar unhryw adeg o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i’w rheolaeth, neu er mwyn sicrhau bod y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn unol â’r deddfau a chanllawiau perthnasol.

19. Mae’r telerau a'r amodau hyn yn weithredol yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.

20. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r Gystadleuaeth at dîm TININT: herffilmfer@tinint.com neu Gwifren Gwylwyr S4C: 0370 600 4141.

 

Wrth dderbyn yr amodau hyn, rydych yn:

 

• Rhoi caniatâd digyfyngiad i'r Cwmni ac S4C ddefnyddio’ch ffilm a/neu glipiau ohoni mewn unrhyw gyfrwng a heb daliad pellach i’r cystadleuydd, cyfrannydd na thrydydd parti. Mae’r hawl hwn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i ddefnydd o’r ffilm a/neu glipiau ohoni ar gyfryngau cymdeithasol, ar sianel deledu S4C, ac ar bob ac unrhyw wefan o dan reolaeth S4C.

• Yr ymgeisydd sydd yn cadw pob hawlfraint yn y ffilm.

• Cadarnhau nad oes unrhyw beth yn ymgais / ymgeisydd yn torri hawliau eiddo deallusol, hawliau preifatrwydd nac unrhyw hawliau eraill unrhyw drydydd parti, ac na fyddant yn cynnwys unrhyw beth sy'n enllibus, difenwol, anllad, anweddus, yn peri aflonyddwch neu'n fygythiol.

• Yn cytuno, os y byddwch yn ennill, y gall y Cwmni ac S4C ddefnyddio enw a llun proffeil yr enillydd at ddibenion hyrwyddo'r gystadleuaeth mewn unrhyw gyfrwng.