Yr Her
BETH YW ‘HER FFILM FER’?
Dyma’r ail Her Ffilm Fer gan Hansh/S4C – rhywbeth cyffrous i'w wneud tra’n bod ni dan glo ac o dan gyfyngiadau COVID 19.
Mae gennych gyfnod o 48 awr i greu ffilm fer wreiddiol, o fewn genre penodol fydd yn cael ei ddatgelu ar ddechrau’r her.
Mae rhai o arbenigwyr mwyaf blaenllaw Cymru yn beirniadu a bydd y ffilmiau hefyd yn cael eu dangos ar blatfform Youtube Hansh yn dilyn y gystadleuaeth ac mewn rhaglen arbennig ar S4C ar ddiwedd mis Chwefror.
Wrth i chi aros am y penwythnos mawr fe fydd sesiynau masterclass yn cael eu cynnal gan sawl enw adnabyddus yn y maes fydd yn cynnig cyngor gwerthfawr a tips handi am gystadlu!
DYDDIADAU PWYSIG
Mae’r her 48 awr yn cychwyn am 19:00 ar y 12fed o Chwefror.
Fe fydd sesiynau byw am 10:30 ar ddydd Sadwrn 13/02/21
ac am 10:30 ar ddydd Sul 13/02/21.
Fe fydd y gystadleuaeth yn cau am 19:00 nos Sul y 14fed o Chwefror.
Ymunwch gyda ni 48 awr yn ddiweddarach am y canlyniadau - 19:00 Nos Fawrth y 16eg o Chwefror.
Y WOBR
Bydd y ffilm orau yn derbyn gwobr ariannol o £1,000 yn ogystal â thocynnau VIP i fynychu Gŵyl Ffilm Iris yng Nghaerdydd mis Hydref 2021.
Yn ogystal, mi fydd S4C a Gŵyl Iris yn gweithio gyda’r gwneuthurwyr i ddatblygu’r syniad ymhellach drwy Academi Ffilm Iris, cynllun hyfforddi Iris mewn cydweithrediad a Phrifysgol De Cymru.
MANYLION PWYSIG
• Rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn i gystadlu
• Rhaid cofrestru cyn 19:00 Nos Wener 12/02/21
• Os ydych am ddefnyddio iaith o fewn eich ffilm, Cymraeg dylai’r iaith hwnnw fod yn bennaf
• Ni all y fideo fod yn hirach na 5’00” o hyd
• Mae angen i chi gadw wrth gyfyngiadau Covid 19 Llywodraeth Cymru wrth ffilmio
• Mae croeso i chi gystadlu fel unigolyn neu fel criw
Gwelir holl delerau’r gystadleuaeth yma.
CYFLWYNYDD YR HER
Steffan Alun fydd yn ein harwain wrth i ni baratoi am yr Her Ffilm Fer ac yn ystod y penwythnos mawr ei hun.
Mae Steffan yn gomedïwr Cymreig heb ei ail ac wedi ymddangos ar sioeau S4C megis "Gwerthu Allan" ac "O’r Diwedd". Mae Steffan hefyd cyn wyneb cyfarwydd ar fideos digidol Sesh y BBC ac fe fydd heb os yn ychwanegu hiwmor i'r ail Her Ffilm Fer.
CWRDD Â’R BEIRNIAID
Gyda’r dasg o ddewis y ffilm fer orau a darparu cyngor gwerthfawr iawn i bob cystadleuydd mae ein panel o feirniad:
• Lee Haven-Jones – Cyfarwyddwr ac Actor talentog sy'n adnabyddus am Doctor Who, The Feast a The Bay.
• Amy Daniel – Awdur a chyfarwyddwr hunan-saethu ffilm yn ogystal â darlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.
• Gwenllian Gravelle - Comisiynydd Drama S4C a Cynhyrchydd Un Bore Mercher.
• Berwyn Rownlands - Sylfaenydd gwobr IRIS gyda 30 mlynedd o brofiad yn y diwydiant ffilm a digwyddiadau.
CYNHYRCHIAD
Cynhyrchiad Hansh S4C ar gyfer S4C, wedi’i gynhyrchu gan Tinint, rhan o grŵp Tinopolis.